Adroddiad y Cyfarwyddwr
Yr ydym yn cychwyn ein 15fed blwyddyn yn ein CCB eleni ac felly mae’n rhwystredig iawn ein bod yn parhau’n ansicr ynghylch cynaladwyedd y mudiad i’r dyfodol. Dylwn gychwyn gyda llwyddiannau’r flwyddyn ac bu llawer, ond mae’n bwysig dweud yn union sut y mae pethau. Felly bydd rhaid i chi gadw’r pwdin tan y diwedd – ac fel y gwyddom, mae gallu gohirio boddhad yn rhan bwysig o ddeallusrwydd emosiynol!
Mae gennym enw da fel darpariaeth celfyddydau cymunedol ac yn sgil ein strategaethau codi arian. Dros y blynyddoedd yr ydym wedi sicrhau arian o ystod eang o ffynhonellau, sy’n adlewyrchu natur eang ac amrywiol ein gwaith, sydd wedi’r cwbwl yn seiliedig ar “Theatr y Gorthrymedig” nid fel y byddai Anna yn ddweud “Theatr y Cyfoethog a’r Cyfforddus, diolch yn fawr iawn i chi!” Efallai mai dyna pam, oherwydd newidiadau yn rhai o’r ffynhonellau cyllido Cymreig, ac os meiddiai ddweud, peth arian loteri yn cael ei gyfeirio tuag at Gemau Olympaidd 2012, yr ydym unwaith eto eleni yn profi “amseroedd anodd”! Unwaith eto yr ydym yn byw yn unol â’r hen ddihareb Sieineiadd! Yr ydym yn ymwybodol o’r “cyfle” sydd o fewn hyn, a dyna pam y byddwn yn parhau i dderbyn y llu o gyfleoedd sy’n dod i’n rhan. Maent yn bennaf ar ffurf comisiynau, ond yn aml iawn maent yn ymwneud â rhai o’r grwpiau mwyaf ymylol a thlawd yng Nghymru, ac o’r herwydd maent wrth wraidd yr agenda cynhwysiant cymdeithasol. Er enghraifft
Mae ein gwaith gyda’r gymuned Ceiswyr Lloches yn Abertawe, yn cael ei ddatblygu gyda grant costau craidd gan Sefydliad Baring, wedi bod yn wirioneddol ddarostyngedig a phwysig. Mae’r gwaith hwn yn parhau yn Rhondda Cynon Taf gyda phobl ifanc sydd wedi dieithrio ac ymylol. Fel yr ydym yn cychwyn ein 3ydd blwyddyn gyda phrosiect ymestyn hawliau “A2A” R.C.T, wyr ydym yn wirioneddol ddiolchgar am barhad eu hymroddiad a’u cefnogaeth i’n gwaith.
Maent yn deall beth yw’r ddolen gyswllt rhwng ein pwyslais ar ddeallusrwydd emosiynol a “meithrin gallu” pobl ifanc, sydd mor bwysig os ydynt am allu cael mynediad i’w hawliau.
Eleni yr ydym wedi body n ymwneud ag ail flwyddyn ein prosiect deallusrwydd emosiynol lleol, wedi’i noddi gan groan Plant Mewn Angen y BBC (does 'na ddim llawer mwy o ariannu ychwanegol yn cyrraedd Gogledd Sir Benfro.) Cafwyd ail flwyddyn wych gyda llu o weithdai a gorymdaith llusernau gwych ar gyfer “Cyhydnos y Gwanwyn.” Diolch o galon i Josie Coggins am y gwaith hwn a hefyd am yr arian ychwanegol o grant Sustainable Pembrokeshire.
Mae Deri yn parhau â’r gwaith ardderchog gyda Caryl ym Mhrosiect Amber yng Nghaerdydd (gyda phobl ifanc sy’n niweidio'u hunain) ac mae hi hefyd yn gweithio gyda grŵp ieuenctid Wildmill; mae Karen a Llew yn gwneud gwyrthiau gyda’n grŵp ieuenctid Base 64 (yn awr yn ehangu i Base 61 yn Hwlffordd). Ac eleni yr ydym unwaith yn rhagor wedi perfformio mewn nifer o gynadleddau (Rhwydwaith U.S. (diolch Ron a Jeff), Cynhadledd Tai Merthyr Tudful ayyb.). Yr ydym hefyd wedi cwblhau’r hyfforddiant yn yr Wcráin ar gyfer y Cyngor Prydeinig, wedi cynhyrchu DVD a phecyn gwaith yn ymwneud ag ymchwilio deallusrwydd emosiynol (yr ydym yn disgwyl i gael ei gyhoeddi) ac wedi ymwneud â nifer o fân brosiectau na ellir eu henwi i gyd.
Mae gwaith sydd yn yr arfaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys gwaith pellach gyda gwasanaeth ieuenctid Sir Gaerfyrddin, prosiect gydag Eiriolaeth Sir Benfro, cynadleddau gyda PAVO, Anabledd Dysgu Cymru, a gyda Rhwydwaith U.S. ayyb, gwaith sy’n parhau yn R.C.T., prosiect Amber, datblgyu mwy o grwpiau Base, gwaith pellach gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, hyfforddiant theatr fforwm yn Estonia a hefyd ar gyfer Arttrain yn yr Alban ayyb.
Yn olaf, gan gofio fod mwyafrif yr arian yr ydym yn derbyn wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â darparu ein gwaith, mae angen i ni gyd fod yn llawen! Felly “byddwch lawen” bob un ohonoch a diolch fel arfer i’n gweithwyr ar eu liwt eu hunain ac i’n byddin o wirfoddolwyr a enwir yn y ddogfen hon.
Diolch arbennig i Sheila (gwirfoddolwr dibynadwy ac aelod pwyllgor) am greu clawr gwych ac arbennig unwaith yn rhagor ar gyfer ein Adroddiad Blynyddol, i Gina am fod mor wych am wrando heb fod yn feirniadol a chreu lle i adlewyrchu, i Karen a Kathy am….. lawer o bethau (yn cynnwys cymryd y melys gyda’r chwerw a rhannu’r llawenydd a’r dagrau!) ac i Lorraine ein Cadeirydd am ei chefnogaeth gyson a di-baid.
Gill Dowsett
Director
Sylwadau Gwirfoddolwyr
"Mewn cynhadledd ddiweddar a drefnwyd gan Rwydwaith US (mudiad sydd â’r nod o roi llais i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd y meddwl yng Nghymru) ac wedi’i hwyluso gan Theatr fforwm Cymru, profais gryfder theatr fforwm fel dull o rymuso. Beth a’m trawodd oedd y syniad bod y gwleidyddol - deddfau, protocol swyddogol a’r ‘farn arbenigol’ archdeipaidd - fel petai yn codi ei hun uwchlaw'r lefel o emosiwn dynol. Teimlais mai ein nod yn y gynhadledd oedd pontio, trwy ffurfiau mynegiannol o theatr a thrafod mewn dull neilltuol feddwl agored, y gagendor rhwng gwleidyddiaeth (sydd yn fy nhyb i yn adnodd i gynnal bywyd, fel ceir neu fwyd) a theimlo (sydd wedi’r cwbwl yn allweddol i bwysig i ddynoliaeth). Mae’r nod hwn yn cyd-fynd â llawer o’r athroniaeth bwysig. Fel canlyniad i’r gynhadledd, teimlais rywbeth sydd efallai yn brin erbyn hyn: awydd i weithredu yn hytrach na sefyllian yn trafod. Fe wnaeth y gynhadledd fy arwain i gyfeiriad newyddiaduraeth, felly yr wyf yn y broses o ysgrifennu rhywbeth a fydd pwysleisio’r angen i gyfeirio mwy o nawdd tuag at fudiadau megis Rhwydwaith US, ac yn gyffredinol i roddi mwy o ystyriaeth i anghenion defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddyliol. Ond yn fwy na hyn: Fel y mae Fforwm yn fy nysgu i ostwng biwrocratiaeth fy rhesymeg i lefel gweithred, hyderaf y gallaf gyfathrebu trwy gyfrwng newyddiaduraeth
- a thrwy fy holl waith gyda Fforwm - y dylem ganiatáu ein hunain i alluogi cyfoeth ein deallusrwydd emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol
i drechu technegolaethau ein gwleidyddiaeth." i alluogi cyfoeth ein deallusrwydd emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol
i drechu technegolaethau ein gwleidyddiaeth."
Stevie Jones
Un o’r gweithgareddau a wnaethom yn ystod ein profiad gwaith oedd diwrnod gyda’r grŵp siblingiaid; maent yn grŵp o bobl ifanc sydd â brodyr neu chwiorydd sy’n dioddef anabledd. Yr oedd y diwrnod yn cynnwys chwarae genau, trafodaethau a fforymu darn o theatr oedd wedi’i baratoi’n flaenorol.
Yr wyf yn aelod o Base 64 a chefais fwynhad gwirioneddol o weld y digwyddiadau eraill y mae Theatr Fforwm Cymru yn cyfranogi ynddynt a’r bobl y maent yn eu cefnogi. Yr oedd yn wych gweld cymaint o ddeallusrwydd emosiynol oedd gan y plant yma, fedrwn i erioed allu rhoi fy meddyliau a fy nheimladau mewn geiriau fel y gallant hwy yn yr oedran yna.
Gallwch weld pa mor bwysig yw’r cyfle i’r plant yma gael yr amser yma yn arbennig are u cyfer hwy. Mae Theatr Fforwm yn rhoi cyfle iddynt gael llais, sydd yn anodd iddynt yn eu bywydau gartref.
Yr oedd yn brofiad emosiynol i mi weld â beth y mae’n rhaid i’r plant yma ymdopi a pha mor gryf ydynt, mae’n anodd i mi ddychmygu sut y maent yn ymdopi pan ydw i’n wynebu trafferthion gyda’r mân anawsterau yn fy mywyd. Pan gewch gyfle i fod yn llygad dyst i’r gwaith yma, gallwch wirioneddol werthfawrogi’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Theatr Fforwm.
Yr wythnos yma, byddaf hefyd yn gweithio gyda’r adran anghenion arbennig yn Ysgol Gynradd Abergwaun, Ysgol Gynradd Wdig a gyda phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig a’u rhieni yn y Rhondda.
Rosie Seymour. Profiad Gwaith gyda ThFfC yn 2007
Mae’n ystafell wedi’i goleuo’n artiffisial er bod y golau y tu allan yn llachar. Yr wyf yn sefyll yna mewn ystafell anhygoel o uchel gyda nenfwd sy’n blith daflith o siandelïers, yn gwylio rhai ffrindiau (rhai newydd, rhai bron iawn cyn hyned ag amser...na, ddim mor hen â hynny) yn dawnsio, ac mewn un achos, yn “dawnsio” o flaen Dug Caerloyw. DUG Caerloyw. Ac os nad oedd hynny’n ddigon rhyfedd, mae’n debyg fy mod yn Affrica hefyd.
Felly pam fod hyn yn berthnasol? Wel yn amlwg oherwydd Theatr Fforwm Cymru a’i griw o gaethweision ifanc, sef Base 64. Mae hyn yn mynd i swnio’n anghredadwy, ond mae’n wir: oni bai am Base a ThFfC ni fyddwn wedi mynd ac ni fyddai wedi digwydd.
Ond fe wnaeth ddigwydd, ac wedi taith mewn car wedi’i logi (a hwnnw’n gar llogi gyda botwm cyflymdra arbennig) ac wedi treulio oriau lu mewn awyren, yr oeddwn yn Lusaka, ble dywedodd Llew wrthyf na fyddai’n beth doeth i geisio ffilmio’r dynion gyda gynau.
Er bod yr wythnos yn fyr ac ni wnaethpwyd cymaint â hynny o weithgareddau cysylltiedig â theatr fforwm, yr oedd yn wych cael profi gwlad mor wahanol i Brydain. Yr oedd yn dda cael cwrdd â phobl newydd a gweld y prosiectau yr oeddent yn ymwneud â hwy neu wedi’u cwblhau.
Mae’r holl deithiau cyfnewid yr wyf wedi’u mynychu wedi pwysleisio’r ffaith ein bod yn byw mewn byd nid mewn swigen, ac er nad wyf yn dymuno swnio’n ystrydebol, mae’n rhaid i mi ddweud fod theatr Fforwm Cymru a Base 64 wedi fy nghynorthwyo i fyrstio’r swigen a gweld y byd ehangach.
BANG!
Ed
Gweithdy Deallusrwydd emosiynol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr ThFfC Tachwedd 15fed-16eg 2006
Gyda Kinny Gardner- Dawnswraig Ballet, Clown Hynod, Athrawes Celfyddydau Iaith arwyddo gyda phlant.
Dau ddiwrnod gyda meistr; chwarae gemau; gweithio gyda dulliau traddodiadol ee pantomeim; meim; masgiau 'commedia dell’arte' (Dadeni Eidalaidd - theatr hurt).
Chwerthin, cynhesrwydd, cymdeithion cariadus, ysbrydoliaeth, arswyd- cromlin dysgu anferth a’r ddau ddiwrnod dilynol hapusaf fy MYWYD!
Sheila Knapp Fisher
Sylwadau’r Cwnselydd
Gofynnwyd i Gina, ein cwnselydd sydd wedi bod gyda Theatr Fforwm Cymru (ThFfC) ers y cychwyn cyntaf, i roddi amlinelliad cryno o’i rôl hanfodol a werthfawrogir yn fawr gan bawb:
“Ers cychwyn y mudiad, mae cynnig cefnogaeth emosiynol i’r staff a gwirfoddolwyr sydd wrth galon ThFfC wedi bod yn flaenoriaeth. Mae pwysau gwaith yn nodwedd gyffredin o’n bywyd bob dydd, yn enwedig i bobl sy’n gweithio yn y sector wirfoddol, gyda mwy a mwy o gystadleuaeth ar gyfer nawdd, a’r ansicrwydd a ddaw yn ei sgil. Nid yn unig dyma sefyllfa ThFfC, ond hefyd nifer o’r mudiadau yr ydym yn gweithio gyda hwy, sydd eu hunain yn ei chael yn anodd cefnogi ystod eang o grwpiau sy’n agored i niwed yn y gymuned.
Os ydym yn cynnig dysgu grwpiau eraill am Ddeallusrwydd Emosiynol mae’n rhaid i ni yn y lle cyntaf fod yn barod i arwain trwy esiampl ac i’r perwyl hwn yr ydym yn cynnig sawl ffurf o Gefnogaeth ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â gwaith y mudiad o ddydd i ddydd. Yn gyntaf mae’r cylch bore Llun sy’n gyfle i ni ddod at ein gilydd a rhannu profiadau gyda’r naill a’r llall, a chynllunio pwy sy’n mynd ble yn ystod yr wythnos. Yn ogystal â’r cyfnod grŵp hwn, yr ydym nawr yn mynnu bode in holl staff a gwirfoddolwyr yn derbyn goruchwyliaeth anrheolaethol sy’n canolbwyntio ar waith. Y bwriad yw annog mwy o adlewyrchu dwys ar beth sy’n llwyddo i bob un ohonom yn ein gwaith, beth sy’n anodd a sut y gallwn ymdrin â’r anawsterau hynny ac ym mha fodd y gallwn wella ein dulliau o weithio. Weithiau bydd unigolion yn ymwybodol o faterion y dymunant drafod yn fanylach, dros gyfnod o amser, a gallant ddewis derbyn cwnsela un i un.
Hyderwn y gallwn gynyddu’n ymwybyddiaeth ohonom ni ein hunain a’r naill a’r llall trwy’r cyfleoedd hyn a pharhau i ddysgu a thyfu er ein budd ei hunain a ThFfC.”
Gina Wood
Adroddiad y Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Ble i gychwyn? Mae’n anodd credo fod blwyddyn wedi mynd heibio ers yr adroddiad blaenorol. Mae fy amgylchiadau personol wedi bod yn flaenllaw ac - yn anochel - maent wedi dylanwadu ar fy ngwaith. Wrth ysgrifennu adroddiad blynyddol rai blynyddoedd yn ôl, cefais syniad gwych sef defnyddio llun o ‘roller coaster’ mewn ffair fel marc dŵr trwy’r adroddiad i gyd - trueni na fyddwn i wedi cadw’r ddelwedd honno, oherwydd o edrych yn ôl doedd hynny ond megis ‘kiddie coaster’ - yr oedd y gwymp fawr, y ‘corkscrews’ a’r troadau 360° eto i ddod!
Felly, gan barhau â’r gyfatebiaeth, mae’n gwneud synnwyr i ganolbwyntio ar rai o’r “troadau hairpin”, yn hytrach na disgrifiad cynhwysfawr o bopeth sydd wedi digwydd i mi - a fforwm - yn ystod y 12 mis diwethaf.
Agora Ieuenctid 2006-llwyddwyd o drwch blewyn i dderbyn nawdd ar gyfer gweithgaredd cyfnewid amlochrog yn canolbwyntio ar ddemocratiaeth a chyfranogi, yn cynnwys bron iawn i 100 o bobl ifanc o Gymru, Portiwgal, Rwmania ac Estonia. Cafwyd uchafbwyntiau (fe ddigwyddodd! Ac mae gennym y DVD i brofi hynny!), siomedigaethau (yr un gwleidydd yn mynychu’r perfformiadau yng Nghaerdydd), chwerthin (dawnsio 'soca' Caribïaidd anhygoel Gill’s a minnau!), balchder (yn enwedig ymhlith y o bobl ifanc o Base 64 fu’n “gwestio” gydag egni, brwdfrydedd ac ymroddiad) a llawer o ddysgu (peidiwch â mentro cynnal taith gyfnewid dwy ganolfan dros gyfnod o 11 diwrnod o ydych am i unrhyw un fod yn gallu siarad ar y diwedd; a pheidiwch hyd yn oed a meddwl am drefnu gweithgaredd cyfnewid sylweddol ddim ond dau fis wedi marwolaeth eich gŵr - duh.)
Mae Base 64 - ein grŵp theatr fforwm i bobl ifanc - yn parhau i fy herio, fy ysbrydoli a fy narostwng. Mae gennym tua 30 o aelodau erbyn hyn, y grŵp ieuenctid anstatudol wythnosol mwyaf yng Ngogledd Sir Benfro. Uchafbwynt Base eleni oedd prosiect Gweithredu Cymdeithasol a drefnwyd gan Llew, wedi’i ariannu gan y Cyngor Prydeinig, a ddiweddodd gyda pherfformiad hynod o lwyddiannus yng Ngholeg Sir Benfro, yn ymdrin â hunaniaeth a senoffobia. Ar gyfer dau o aelodau Base - arweiniodd hyn at ymweliad â Zambia i gwrdd â phobl ifanc o Zambia, Zimbabwe, De Affrica and Mawrisiws oedd yn ymwneud â phrosiectau tebyg. Diolch Llew am brosiect mor ysbrydoledig. Mae grwpiau Base wedi’u sefydlu yn Wildmill (Pen-y-bont) a Hwlffordd, gyda sawl ardal arall â diddordeb mewn sefydlu eu grŵp eu hunain- a llawer o brosiectau ieuenctid yn gofyn am ymweliad gan ein grŵp. Mae hyn yn parhau yn ffocws pwysig i mi - ac yr wyf yn ymwybodol o’r angen i wneud pethau’n araf deg, i sicrhau cynaladwyedd ac ariannu priodol- ond yr wyf yn cael fy nghyffroi gan botensial ein grŵp Base ‘ni’ ac eraill fel yr aiff y flwyddyn yn ei blaen. Mae ariannu yn parhau yn bryder, ac mae’r ffaith nad ydym yn debygol o dderbyn arian craidd yn y dyfodol agos a’r mater o gynaliadwyedd yn ychwanegu at ein problemau. Yr ydym yn parhau i ymgeisio am arian prosiect sy’n llafurus o safbwynt nifer y ceisiadau a’r gwaith sydd angen ei wneud i gwblhau’r prosiectau eu hunain. Mae grant Plant Mewn Angen y BBC unwaith yn rhagor wedi darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer gwaith deallusrwydd emosiynol yn ein hardal leol gan ddefnyddio ystod o ddulliau celfyddydol, o’r orymdaith llusernau hynod lwyddiannus y cynhwyswyd ein cymuned ynddo, i ddawns, cerddoriaeth ac ystyriaeth. O’m safbwynt i, bu’r profiad o weithio’n rheolaidd gyda Dosbarth anghenion Arbennig Ysgol Glannau Gwaun Special yn bleser - bu’n fraint cael dod i adnabod y plant a’r staff sydd mor ymroddgar iddynt, a chyfle go iawn i weld sut mae eu geirfa ar gyfer teimladau ac emosiynau yn datblygu. Mae nifer o ddarnau eraill o waith wedi bod yn agos at fy nghalon eleni - Ysgol VC Hwlffordd, gweithio unwaith yn rhagor gydag Eiriolaeth Sir Benfro, a datblygu perthynas gyda’r myfyrwyr chweched dosbarth yn Ysgol Penglais i enwi ond tri. Ochr yn ochr â hyn y mae’r gwaith “swyddfa” sydd yn gallu bod yr un mor symbylol, ail-edrych ar ein strwythur cyfansoddiadol; ceisiadau grant sylweddol; a pharhad y dadlau ynghylch perchnogaeth Canolfan Gymdeithasol Wdig - er nad fu hynny efallai yn brofiad a roddodd foddhad!
I grynhoi felly, fel arfer, mae fforwm yn lle i ddysgu, i ymestyn fy hun ac i dyfu - dydi hynny ddim bob amser yn gyfforddus ac yn sicr nid yw bob amser yn hawdd - ond yr wyf yn dysgu cymaint bob dydd. Yr wyf wedi bod wrth fy modd yn gweithio gyda’r gwirfoddolwyr, cefais fwynhad arbennig o weithio ar brosiectau gyda Deri a Llew, yn hynod o ddiolchgar i Kathy am ei sgiliau amrywiol ac eang yn y swyddfa, yn diolch i Gina o waelod calon am ei chyngor doeth - ac nid oes gennyf ddigon o eiriau i fynegi fy mharch a’m diolch i Gill.
Karen Chandler
Adroddiad cydlynydd gweinyddol
Yr wyf bellach wedi bod yn gweithio yma yn Theatr Fforwm Cymru am bron iawn i 18 mis ac ers yr adroddiad diwethaf yr wyf yn falch o gael dweud fod llawer iawn wedi newid i mi yn fy ngwaith ac yn bersonol er gwell.
Credaf fod y sustemau yr wyf wedi’u sefydlu yn gweithio’n dda i bawb, o Staff y swyddfa i hwyluswyr a gwirfoddolwyr, ac er bod angen rhoi sylw ychwanegol i rai tasgau, yr wyf yn gallu adrodd yn hyderus fod fy nod personol o allu cwblhau fy nyletswyddau yn fedrus yn cael ei gwblhau.
Rwy’n ymdrechu 100% i geisio cwblhau'r dyletswyddau gweinyddol o ddydd i ddydd mewn dull effeithiol ac ar yr un pryd cynorthwyo Gill (Cyfarwyddwr) a Karen (Cyfarwyddwr Cynorthwyol) ble bynnag y gallaf. Credaf fy mod bellach yn cyfrannu rhywbeth cadarnhaol tuag at waith Theatr Fforwm Cymru a gobeithiaf y gallaf barhau i weithio yma cyn hired ag y maent fy angen yma. Yr wyf wirioneddol yn mwynhau fy ngwaith ac mae’n anrhydedd bod yn ymwneud â grŵp mor ardderchog o bobl, a diolch i Gill a Karen a fy nghynorthwyo nid yn unig i deimlo’n gartrefol ond hefyd i fy ngwneud i deimlo’n rhan o fudiad mor arbennig - ni all geiriau fynegi fy edmygedd o’r ddwy ohonoch.
Kathy Powell
Pwy ydym ni
STAFF 2005-2006
Cyfarwyddwr: Gill Dowsett
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Karen Chandler
Cyd-gysylltydd Gweinyddol: Kathy Powell
Cwnselydd: Gina Wood
GWIRFODDOLWYR 2005-2006
Llew Jones, Rea Rickard, Richard Clafton Kate Newton, Charlotte Stephens, Cristi Vasilescu Hanna Trapp, Anna Dowsett, Dean George, Angelika Trawnitschek, Kirsty Weedon, Rowan Davies, Emmy Beijdorff, Richard Blincoe, Bu Pratt, Susan Watts-Barnes, Susan Taylor, June Cooper Sheila Knapp Fisher, Katy Leese, Ellie Guiver, Maya Sonvico, Gail James, Dean Murphy, Harry Spencer, Rhodri Pugh-Dungey, Phil Morris, Becky Moore, Jamie Murphy, Gethin Morris, Eleri Griffiths, Ed Stockham.
GWEITHWYR SESIYNOL 2005-2006
Deri Steele-Morgan, Llew Jones, Becky Hotchin, Josie Coggins, Heather Summers, Miranda Betts Daniel Backhouse, Hannah Rackham, Bethany Dowsett, Mel Lucking, Mike Hotson
YMDDIRIEDOLWYR 2005-2006
Lorraine Sherman (Cadeirydd)
Andrew Elliott (Trysorydd)
Libby Burn (Ysgrifenyddes)
Charlotte Stephens
Ron Woodall (is-gadeirydd)
Amanda Roberts
Caryl Stock
Hanna Baumeister (cynrychiolydd gwirfoddolwyr)
Llew Jones (resigned)
Bubsy Steele-Morgan
Roland Williams
Deri Steele-Morgan (resigned)
YN 2006-2007 CYNRYCHIOLWYD THEATR FFORWM CYMRU AR….
Grŵ Llywio Iechyd Emosiynol PPI
DIOLCH YN FAWR IAWN
I’n noddwyr – –Cynllun Cymdeithasau Byw Llywodraeth Cynulliad Cymru, Plant Mewn Angen, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Baring, Gwirfoddolwyr y Mileniwm, arian Ewropeaidd trwy Connect Youth ac arian ESF Cyngor y Celfyddydau; y Gronfa Risg Gymdeithasol (ar gyfer Base 64); Cronfa’r Loteri Fawr (ar gyfer Base 64); Sustainable Pembrokeshire; Sefydliad Lloyds TSB; y Comisiwn Etholiadol, (ar gyfer Base 64); i’r rhai yr ydym wedi gweithio gyda hwy eleni ac i’n ymddiriedolwyr a’n gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth a’u gwaith di-flino
Theatr Fforwm Cymru
Elusen Gofrestredig Rhif 1040812
Canolfan Gymunedol Wdig
New Hill
Wdig
Sir Benfro SA64 0DR
Cymru
Ffon/Ffacs: +44(0)1348 873805
info@theatrfforwmcymru.org.uk
www.theatrfforwmcymru.org.uk |