Diffinir pwrpasau gwaith ieuenctid yng Nghymru fel â ganlyn:
- i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bob person ifanc fel y gallant gyrraedd eu potensial fel unigolion grymusedig ac aelodau o grwpiau a chymunedau.
- i gynorthwyo pobl ifanc wrth iddynt ddod yn oedolion.
- i gynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu agweddau a sgiliau sy’n eu galluogi i wneud defnydd pwrpasol o’u hadnoddau personol a’u hamser.
Dylai pob prosiect gwaith ieuenctid fod wedi’i gynllunio i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb trwy herio gorthrwm ac anghyfartaledd, i dderbyn y gwahaniaethau sy’n deillio o hil, hunaniaeth rywiol, rhyw, anabledd, oedran a chrefydd,a chydnabod amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol Cymru.
Yn y gorffennol roedd gwaith ieuenctid yn faes hynod o ymatebol. Gwyddai gweithwyr ieuenctid beth oeddent yn wneud ond yn aml iawn, nid oeddent yn gallu ei gyfleu mewn geiriau. Yr oedd â rhywbeth i’w wneud â deall pobl ifanc, cyn belled â bod eu dymuniadau hefyd yn eu cadw o’r strydoedd (pŵl, dartiau a rhywle i gwrdd), trefnu ambell drip, bod ar gael ayyb. Mae hyn yn parhau’n wir am rai agweddau o waith ieuenctid, fodd bynnag, mae yna angen (sydd wastad wedi bodoli) am ymdriniaeth fwy deinamig a gweithredol tuag at waith ieuenctid.
Mae nifer y cynlluniau gan y Swyddfa Gymreig a’r Cynulliad sy’n annog y math hwn o waith ieuenctid gweithredol wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diweddar. Maent yn cynnwys y Fenter Mynediad Ieuenctid, Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, a’r Bartneriaeth Ysgolion a Gwaith Ieuenctid. O fewn maes y prosiectau hyn mae ystod eang o gyfleoedd i weithio i ddatblygu deallusrwydd emosiynol. Fel mudiad yr ydym wedi bod yn ymwneud â sawl un o’r prosiectau hyn yn ein cynefin yn Sir Benfro. Yr ydym wedi darganfod fod pob person ifanc yn elwa o waith sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad emosiynol, nid yn unig y rhai sy’n cael eu disgrifio fel rhai ‘‘wedi’u dieithrio’’. Er enghraifft, mae cyfran o’n gwaith mewn ysgolion wedi bod yn ymwneud ag hyfforddi gwirfoddolwyr o’r 6ed dosbarth i fod yn diwtoriaid cyfoed o fewn eu hysgolion. Dyma ddyfyniad gan un o’r cannoedd o ieuenctid yr ydm wedi hyfforddi :
“Dwi heb brofi llawer o’r problemau yr ydych wedi ymdrin â hwy, felly mae eich gwaith wedi fy mharatoi ar gyfer adeg pan fydd rhaid i mi ymdrin â sefyllfa mewn bywyd tebyg i’r rhai yr ydych wedi ddarlunio a rhoddodd well dealltwriaeth i mi o’r pwnc fel y gallaf gynorthwyo eraill o’m cwmpas sydd â phroblemau tebyg i’r rhain. - - - Mae’n bywsig i bobl fel fi sy’n ddigon ffodus i gynorthwyo eraill sydd o’m cwmpas, a theimlo tosturi tuag at fy nghyfoedion.”
Gellir comisiynu ThFfC ar gyfer prosiectau o fewn clybiau ieuenctid; theatrau ieuenctid; mentrau ieuenctid o fewn ysgolion, Unedau Cyfeirio Disgyblion a mannau eraill. Defnyddiwn theatr, gemau, amser cylch ac ystod eang o dechnegau o fewn fframwaith deallusrwydd emosiynol i greu prosiectau sydd yn addysgol, mynegiannol, cyfranogol, grymusol – ac yn llond trol o hwyl! |