Gall Theatr Fforwm Cymru gynnig ystod eang o weithdai a phrosiectau wedi’u cynllunio yn arbennig, yn ogystal â chynlluniau parod megis ‘Chwarae O Ddifri’. Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos beth allwn gynnig – egwyddor sylfaenol gwaith ThffC yw ymateb i anghenion y mudiad sy’n comisiynu, a byddwn yn cydweithio â chwi i ddatblygu gweithdai addas i’ch anghenion.
Mae rhai o weithdai a phrosiectau ThFfC yn ystod y flwyddyn diwethaf wedi cynnwys:
- Hyfforddi gweithwyr ieuenctid o Ddwyrain Ewrop mewn technegau theatr fforwm, a ddefnyddiwyd ganddynt mewn gwaith ym maes puteinio plant a thrafnidiaeth ddynol
- Gweithdy dau ddiwrnod gydag Uned GIG ar gyfer oedolion gydag awtistiaeth a Syndrom Asperger yn ogystal â’r tîm staff
- Gweithdai wythnosol cyson â phobl ifanc sydd mewn perygl o hunan-niwed yng Nghaerdydd, sydd wedi arwain at berfformiadau grymus, yn cynnwys un ar gyfer cynhadledd i nyrsys sy’n gweithio’n y maes
- Prosiect gwerthuso ar gyfer prosiect cyfnewid traws-genedlaethol i ieuenctid
- Gwaith adfywio cymunedol yng nghymoedd De Cymru, gan ddefnyddio theatr fel ffocws ar gyfer datblygiad cymunedol
- Gweithdai addysg gyfoed tri diwrnod ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgol yng Ngheredigion
- Gweithdy hanner diwrnod ar gyfer mudiadau sy’n ymwneud â hybu entrepreneuriaeth led-led Ewrop
- Cynlluniau cyfnewid ieuenctid gydag Iwerddon a Gwlad Pwyl
- Gweithdai ymwybyddiaeth cyffuriau a ‘symud i’r ysgol uwchradd’ ar gyfer disgyblion ysgol cynradd yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro (dan nawdd y Clwb Rotari)

|