Theatr Fforwm Cymru

English
Pwy ydym ni
Beth ydym yn gynnig
Beth ydym wedi'i wneud
 
Beth ydym yn ei wneud
Newydd
Ehangu’r dewislenni
Map o'r Safle

Cysylltwch  Ni

Cefnogaeth a Noddwyr

Arts Council of Wales
BBC Children in Need
The Baring Foundation
The European Union
  Llythrennedd Emosiynol


Emotional IntelligenceTheatr Fforwm Cymru – Datblygu llythrennedd emosiynol a dealltwriaeth o berthynasau, gyda plant a phobl ifanc.

Cynlluniwyd yr hyfforddiant hwn fel cyflwyniad i athrawon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr gofal ayyb i dechnegau ar gyfer datblygu llythrenedd emosiynol plant a phobl ifanc. Mae’n ystyried y 5 maes a nodwyd gan Daniel Goleman; adnabod ein hemosiynau, rheoli emosiynau, hunan-gymhelliant, adnabod emosiynau yn eraill ac ymdrin â pherthynasau. Mae’r technegau a ddefnyddir yn cynnwys cymysgedd unigryw a amser cylch, theatr fforwm, gemau rhyngweithiol, dadansoddi trawsweithredol a thechnoleg lle agored, ac maent wedi esblygu yn dilyn nifer o brosiectau a ymgymerwyd gan Theatr Fforwm Cymru dros nifer o flynyddoedd, gyda plant a phobl ifanc o 5 i 18 oed. Mae’r hyfforddiant yn brofiadol, yn union fel mae’r gwaith gyda plant a phobl ifanc, ac mae’n cofleidio y cylch dysgu o wneud, adolygu, dysgu a chymhwyso, mewn amgylchedd sy’n hyrwyddo cymryd cyfrifoldeb personol.

Trwy ganolbwyntio ar berthynasau, mae’r gwaith yn ymdrin â thri maes:

Fy mherthynas â fi fy hun:
Ymchwilio’r byd mewnol; gwerthoedd, hunan-gymhelliant, ystyr a phwrpas, teimladau, bod yn llonydd ac adlewyrchol, pwysigrwydd hunan-barch, ymateb yn ofalus ayyb. Mae llawer o’r gwaith yn cael ei gynnwys mewn amser cylch, lle diogel ble mae gonestrwydd yn cael ei fodelu a’i annog a dyma fan cychwyn ein holl waith.

Fy mherthynas â thi:
Edrych ar sgiliau rhyngberthynasol a chymdeithasol megis gwrando, deall ymddygiad a’i ganlyniadau (e.e. effaith dylanwad cyfoedion), datblygu empathi a thosturi, ystyried moesau, annog trafodaeth, datrys gwrthdaro ayyb. Mae’r gwaith hwn yn ehangu o’r cylch ac fe ymchwilir iddo trwy gyfrwng sesiynau theatr/drama rhyngweithiol.

Fy mherthynas â’r byd;
Deall a phrofi cymuned, perthyn, dinasyddiaeth fyw, cofleidio amrywiaeth, cydweithio, materion amgylcheddol ayyb. Gwneir hyn trwy gyfrwng gwaith yn y cylch, gemau rhyngweithiol a theatr fforwm, gyda’r pwyslais nid ar allu i actio ond ar y gallu i fod yn weithgar neu i weithredu.

Mae’r cyrsiau’n amrywio o 1 i 3 diwrnod, yn dibynnu ar lefel yr arbenigedd sydd ei angen, a gellir hefyd gynllunio’n arbennig ar gyfer anghenion neu agwedd benodol.


 

Theatr Fforwm Crymru, Goodwick Community Education Centre, New Hill, Goodwick, Pembrokeshire, SA64 0DR
Site Designed by JamieKing.co.uk Web & Graphic Design - Click to visit websiteJamieKing.co.uk Web Design
Cartref Galeri