Theatr Fforwm Cymru

English
Pwy ydym ni
Beth ydym yn gynnig
Beth ydym wedi'i wneud
 
Beth ydym yn ei wneud
Newydd
Ehangu’r dewislenni
Map o'r Safle

Cysylltwch  Ni

Cefnogaeth a Noddwyr

Arts Council of Wales
BBC Children in Need
The Baring Foundation
The European Union
  Theatr Y Gorthrymedig

Mae'r technegau theatr a ddefnyddir yn bennaf gennym wedi'u dylanwadu gan waith y Cyfarwyddwr a'r Addysgwr o Frasil, Augusto Boal. Yr enw cyffredinol am y math hwn o waith yw "Theatr Y Gorthrymedig" sy'n cael ei dalfyrru yn ThG.

Theatre of the OppressedMae'r technegau a ddefnyddir o fewn y math hwn o waith bob amser yn gyfranogol ac maent yn cynnwys:

Gemau.
Mae Augusto wedi casglu gemau o ledled y byd ers nifer o flynyddoedd, ac rydym ninnau wedi dyfeisio rhai hefyd. Ystyriwn eu bod yn werthfawr iawn i bwrpas torri'r iâ, hyrwyddo cydweithio ac adeiladu tîm, cynyddu sensitifrwydd y synhwyrau, ar gyfer datblygiad cinesthetig, cyd-gysylltu, dilyniant, ayyb. Mae gormod o'r gemau hyn i'w rhestru yma, ond byddai'n werth cychwyn trwy ddarllen "Games for Actors and Non Actors." (Augusto Boal, Cyhoeddwyd gan Routledge).

Theatr Ddelweddol.
Mae'r dechneg hwn yn hunan eglurhaol. Mae gweithio dda gyda pob oedran ac yn enwedig gydag unigolion sy'n cael trafferth i fynegi emosiynau neu brofiadau yn llafar. Mae'n annog dealltwriaeth o iaith corfforol (yr ydym yn ei ddarllen cyn y dywedir unrhyw beth) ac fe'i crynhoir yn y dywediad "mae'n darlun yn darlunio mil o eiriau." Defnyddir dull theatr ddelweddol hefyd pan yn datblygu gwaith gyda'r technegau ThG eraill.

Threatre of the OppressedTheatr Fforwm.
Yn y model confensiynol o theatr mae'r ddrama yn darlunio gwrthdaro sydd yn y pen draw yn cael ei ddatrys trwy drychineb neu lwyddiant. Yn ei ffurf buraf a mwyaf elfennol, mae dull theatr fforwm o ddrama yn darlunio problemau gwir, materion sy'n amharu ar y cymunedau y mae'r actorion a'r gynulleidfa yn ddelfrydol yn perthyn iddi. Ar ddiwedd y cynhyrchiad, nid yw'r broblem a gyflwynwyd yn cael ei datrys, a gwahoddir y gynulleidfa i geisio gwneud hynny. Perfformir y ddrama drachefn a'r tro hwn gall y gynulleidfa weiddi "Stop!", mentro i fyny ar y llwyfan a chyfnewid lle gyda'r cymeriad sydd â'r broblem a dangos sut y byddant hwy yn gweithredu mewn sefyllfa o'r fath. Mae person a adnabyddir fel 'Y Digrifwr' yn cadeirio'r gweithgareddau, ac yn union fel y digrifwr mewn pecyn o gardiau sy'n annibynnol o'r cardiau eraill, mae ef/hi yn ddi-duedd.

Mae'n crynhoi dysgu profiadol, fel a ddywedir yn yr hen ddywediad, Edrychaf a gwelaf, clywaf ac rwy'n gwybod, gwnaf a deallaf. Dyma'r dechneg sydd, o'n profiad ni, yn creu'r empathi mwyaf.

Theatr Ddeddfwriaethol.
Dyma ymestyniad o Theatr Fforwm, ble y gellir datrys y broblem ond trwy newid cyfraith, polisi neu ganllaw, naill ai mewn sefydliad, mudiad neu gymdeithas (llywodraeth). Daw'r cynhyrchiad yn gyfle i ymchwilio yn ddeinamig a democrataidd ac ymarfer yr hyn a ystyrir yn gyfraith 'ddelfrydol'.'

Heddlu yn y Pen.
Techneg ar gyfer adnabod ac ymdrin â gormesau mewnol megis siarad â'r hunan yn negyddol a 'rhoi i lawr'. Mae'r technegau hyn yn cynorthwyo i gael gwared o'r gormesau hyn a'u troi'n ddelweddau neu hyd yn oed gymeriadau. Er fod yr 'heddlu' o fewn ein pennau, mae eu pencadlys yn allanol a thrwy ddod â hwy allan, gallwn ystyried pa rai sy'n ddefnyddiol a pha rai sydd ddim yn ddefnyddiol, o fewn sefyllfa benodol.

Enfys Dyheadau.
Dyma ymestyniad o'r techneg 'heddlu yn y pen' sy'n darparu cyfle ar gyfer ymchwilio i'r dyheadau amrywiol y byddwn yn eu profi ar unrhyw foment. Dull o adnabod yr hyn yr ydym ei angen o fewn perthnasoedd penodol ac ymarfer dulliau o gyflawni hynny.

Mae rhywbeth yn sylfaenol ddynol a dyneiddiol yn null y technegau hyn o weithio. Fe all hyn egluro'r cyd-ddigwyddiad anhygoel fod technegau sy'n ymddangos bron iawn yr un fath a rhai Boal wedi dod i'r amlwg yn Affrica ac Asia, er mai Boal sy'n derbyn cydnabyddiaeth am ffurfioli a chreu theori yn gysylltedig â'r defnydd chwyldroadol a grymus hwn o theatr. Mae Boal yn cydnabod cymaint a hynny ei hun -

Yn ei ystyr mwyaf hynafol, theatr yw'r gallu sydd gan bobl - ond nid anifeiliaid - i sylwi arnynt eu hunain yn y weithred o weld, i feddwl eu hemosiynau, i deimlo gwefr eu meddyliau, i allu gweld eu hunain yn y fan yma a dychmygu eu hunain fan draw, gallant weld eu hunain heddiw a dychmygu eu hunain yfory."

Fodd bynnag, mae'r gymuned fyd-eang sy'n defnyddio dulliau cyfranogol o'r fath yn defnyddio'r term ThG neu Theatr Fforwm ac yn cydnabod cyfraniad Boal. Mae amrywiaeth eang yng ngweithrediad a blaengarwch defnydd y technegau hyn, sy'n cael ei annog gan y gymuned ThG fyd-eang. Yr ydym ninnau yn datblygu dulliau a thechnegau gwahanol, gan gyfuno ThG gyda Technoleg Lle Agored, Llythrenedd Emosiynol ac ymarferion Ystyriol. Ond mae rhai egwyddorion cyffredin sy'n cael eu mynegi yn y Datganiad Egwyddorion sy'n arwain ein gwaith ac a gaiff ei gyhoeddi a'i ddiweddaru gan y mudiad ThG rhyngwladol. Gan nad yw'r datganiad yn rhwydd i'w ddarllen, mae'r dyfyniadau isod o waith Boal yn ein tyb ni yn crynhoi hanfod ThG.

"Math o wybodaeth yw theatr: fe ddylai ac fe all hefyd fod yn ddull o drawsffurfio cymdeithas. Gall Theatr ein cynorthwyo i adeiladu ein dyfodol, yn hytrach na disgwyl amdano ."

"Dyma yw theatr - y gelfyddyd o edrych arnom ein hunain."

"Nid adeiladau yw ystyr theatr. Theatr- neu theatraeth - yw'r gallu, yr elfen ddynol sy'n galluogi dyn i sylw arno'i hun wrth ei waith, mewn gweithgaredd. Mae'r hunan-wybodaeth a ddatblygir yn y dull hwn yn ei alluogi i fod yn oddrych (yr un sy'n sylwi) goddrych arall (yr un sy'n gweithredu).Mae'n ei alluogi i ddychmygu gweithredu amgen, i astudio'r dewisiadau eraill. Gall dyn sylwi arno'i hun yn gweld, yn y weithred o actio, yn y weithred o deimlo, yn y weithred o feddwl. Teimlo'i hun yn teimlo, meddwl amdano'i hun yn meddwl."

Augusto Boal

Theatr Fforwm Crymru, Goodwick Community Education Centre, New Hill, Goodwick, Pembrokeshire, SA64 0DR
Site Designed by JamieKing.co.uk Web & Graphic Design - Click to visit websiteJamieKing.co.uk Web Design
Cartref Galeri