Theatr Fforwm Cymru a Thechnoleg Lle Agored
Dyma ddull cynhadledd sy’n annog pobl i ddefnyddio eu profiadau a’u harbenigedd i ddatrys problemau mewn dull gynaladwy. Mae’n cychwyn â sbardun i annog y cyfranogwyr i ystyried y materion, problemau a’r rhwystrau sy’n gysylltedig â phwnc y gynhadledd. Mae ymateb y cyfrangowyr i’r sbardun yn gosod yr agenda am y diwrnod. Mae Theatr Fforwm Cymru yn defnyddio cyfuniad o gwestiynau a osodwyd gan drefnwyr y gynhadledd a darn o theatr sy’n tynnu sylw at faterion penodol a adnabyddwyd gan bobl sy’n profi’r materion hyn. Yna mae’r agenda yn cael ei greu gan fynychwyr y gynhadledd mewn ymateb i gwestiynau, syniadau, materion ayyb sy’n deillio o’r darn theatr a chwestiynau’r gynhadledd. Gofynnir i unrhyw un sy’n cyflwyno cwestiwn i fod yn gyfrifol am y drafodaeth yn y sesiwn gweithdy a sicrhau, naill ai yn bersonol neu drwy ddirprwyo, fod nodiadau yn cael eu cymryd. Gall y rhain fod yn rhan o’r adroddiad ar y digwyddiad a gellir eu defnyddio i adnabod syniadau da, materion, cyfeiriad polisi a chysylltiadau gyda’r cyfranogwyr. Mae rhai o egwyddorion sylfaenol Technoleg Gynadleddu Lle Agored y mae’n werth tynnu sylw atynt.
Y bobl iawn yw pwy bynnag sy’n mynychu
Mae hyn yn ein hatgoffa nad faint o bobl sy’n mynychu, eu swydd neu safle sy’n gwnud y gwahaniaeth ac yn peri i ni eu hadnabod fel y bobl iawn ond yn hytrach y ffaith eu bod yn rhannu yr un angerdd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Beth bynnag sy’n digwydd yw’r unig beth a allai ddigwydd
Mae hyn yn cyfeirio ein sylw o’r hyn a allai fod wedi digwydd, neu beth a ddylai fod wedi digwydd, ac yn angori ein sylw i’r hyn sy’n digwydd… ar yr union adeg yma.
Pryd bynnag y mae’n cychwyn yw’r amser iawn
Mae’n awgrymu nad y cloc yw’r meistr ym maes trafodaeth greadigol ac ymchwilio ysbrydoledig. Mae pethau’n cychwyn pan maent yn barod – nid ynghynt nac wedi hynny.
Pan mae ar ben, mae ar ben
Mae’n golygu hynny’n union. Peidiwch â thin droi pan mae’r amser wedi mynd heibio. Bwrwch iddi â rhywbeth defnyddiol.
Mae un rheol
Os byddwch yn darganfod nad ydych yn dysgu nac yn cyfrannu, defnyddiwch eich dwy droed a symudwch ymlaen.
Gellir comisiynu ThFfC i ddefnyddio technoleg lle agored ar gyfer diwrnodau adeiladau tîm; cynadleddau; hyfforddiant staff; grwpiau ffocws..unrhyw ddigwyddiad a fyddai’n manteisio o fod yn wirioneddol gyfranogol, democrataidd a chynhwysol. Mae’r ffïoedd yn £750 y diwrnod + teithio |